Mae Ceredigion, ar arfordir gorllewinol Cymru, yn gyrchfan ddelfrydol os ydych am grwydro cefn gwlad ac arfordir Cymru, os ydych am gael seibiant dros y penwythnos neu am gael gwyliau hwy efallai. O gilfachau dirgel Bae Ceredigion - sy’n enwog am ei fywyd gwyllt, ei lwybr cerdded arfordirol a’i fachlud haul bendigedig - i raeadrau dramatig, coetiroedd aeddfed a llethrau mynyddig Mynyddoedd Cambria, nid darganfod ardaloedd o gefn gwlad a golygfeydd o’r môr fydd yr unig beth a wnewch. Fe welwch chi hefyd ardal nodedig sydd â’i hunaniaeth ddiwylliannol lewyrchus ei hun ac sy’n frwdfrydig iawn ynghylch cynhyrchu a gweini bwyd da. Nod llwybr O Flas i Flas Ceredigion yw eich tywys ar daith o amgylch y sir, gan ddangos ei golygfeydd godidog i chi a’ch cyflwyno i rywfaint o’r bwyd a diod rhagorol a gynhyrchir yma ym Mae Ceredigion!
O dref brifysgol Aberystwyth i bentrefi bach glan môr ac o drefi marchnad i bentrefi bach gwledig, bydd croeso cynnes yn disgwyl amdanoch ym mhob un o drefi a phentrefi Ceredigion yn ogystal â llawer o hanes a llu o atyniadau i’w darganfod. Fyddwch chi ddim yn brin o bethau diddorol i’w gweld a’u gwneud!
Mae Llwybr Arfordir Ceredigion yn dilyn llwybr trigain milltir rhwng aber afon Teifi ac aber afon Dyfi – o Aberteifi yn y de i Ynys-las yn y gogledd. Mae’r llwybr ar agor bob diwrnod o’r flwyddyn a bydd y golygfeydd dramatig yn newid gyda’r tywydd! Mae sawl un o aelodau O Flas i Flas yn agos iawn i’r llwybr ac felly’n fannau delfrydol ar gyfer cael seibiant haeddiannol i fwynhau coffi neu hufen iâ cartref. Neu beth am ffonio ymlaen llaw a chasglu picnic i’w fwynhau ar y ffordd?
Caiff llawer o ddigwyddiadau eu cynnal gydol y flwyddyn i chi eu mwynhau, sy’n cynnwys gwyliau cerdded, digwyddiadau chwaraeon cyffrous, digwyddiadau ym maes cerddoriaeth, theatr a chelf, sioeau gwledig traddodiadol a gwyliau bwyd. Bydd ein llwybr O Flas i Flas yn eich helpu i fwynhau eich cyfnod yng Ngheredigion – mae pob cynhyrchydd yn taflu goleuni unigryw ar y profiad o fyw a gweithio yn y sir fendigedig hon…gan gynhyrchu bwyd a diod o safon i chi eu mwynhau a mynd â nhw adre gyda chi efallai yn atgof melys o’ch gwyliau gwych.