Fferm Pen-lon, Llanarth, Ceredigion, SA47 0QN
O Aberaeron, gyrrwch drwy Lanarth. Wrth y groesffordd trowch i’r chwith a theithiwch ar hyd y ffordd am filltir. Mae Pen-lon ar ben draw lôn sydd ar y dde. Mae’r lôn i’r bragdy yn anwastad ac nid yw’n addas ar gyfer cerbydau isel.
Amrywiol – ffoniwch y bragdy i gael gwybodaeth am oriau agor
Gweld Bragdy Bach Pen-lon ar fap mwy o faint
Dechreuodd Bragdy Bach Pen-lon fel bragdy fferm go iawn. Fel bragwr â gradd mewn ffiseg niwclear a ffiseg gronynnau, roedd diddordeb Stefan mewn bragu yn deillio o’i ddiploma cynharach mewn gwyddoniaeth, a oedd yn cynnwys astudiaeth o ficrobioleg a bragu. Treuliodd flynyddoedd yn arbrofi gydag amryw ddiodydd wedi eu bragu er mwyn ceisio canfod ffordd o gynhyrchu digon o gwrw traddodiadol i redeg busnes hyfyw, heb golli ansawdd y cwrw cartref gorau posibl. Gwelodd Bragdy Bach Pen-lon ei fod wedi llwyddo i wneud hynny pan gafodd Cystadleuaeth Barnu Stoc y Gymdeithas Defaid Suffolk leol ei chynnal ar y fferm yn 2004, pan gafodd y ddau fath cyntaf o gwrw, sef Twin Ram IPA a Lambs Gold Light Ale, eu hyfed yn sydyn a’u mwynhau’n fawr gan y sawl a oedd yn bresennol. Arweiniodd y llwyddiant hwnnw’n naturiol at y fenter fasnachol, sef Bragdy Bach Pen-lon. Roedd y cwrw i gyd yn cael ei fragu ychydig ar y tro, bryd hynny fel y mae heddiw, gan gynhyrchu ansawdd a blas unigryw yr ydym ni ac y mae pobl eraill o’r farn na all bragdai mwy o faint eu hefelychu.
Dros y blynyddoedd rydym wedi cynyddu nifer ein mathau rheolaidd o gwrw i 10 ac wedi ennill sawl un o wobrau Y GWIR FLAS, gan gynnwys dwy wobr AUR ar gyfer Lambs Gold a Gimmers Mischief. Mae mathau eraill o gwrw Pen-lon yn cynnwys Ramnesia Strong Ale (sydd hefyd wedi ennill un o wobrau Y GWIR FLAS), Ewes Frolic Lager, Cardi Bay Best Bitter, Tipsy Tup Pale Ale, Heather Honey Ale a’n dau fath o stowt – Chocolate Stout a Stock Ram Stout. Bydd pob un o’n gwahanol fathau o gwrw yn parhau i aeddfedu yn eu poteli, a bydd y gwaddodion burum sydd yn y poteli’n arwydd o hynny. Rydym yn falch o’r ffaith na chaiff y cwrw ei hidlo na’i glirio, sy’n ei wneud yn arbennig o ddeniadol i bawb sy’n llysfwytawyr ac i’r rhan fwyaf o feganiaid.
Mae ein cynnyrch ar gael o’r siopau fferm, y siopau delicatessen a’r siopau cyfleus gorau yng Ngheredigion.
Mae’r bragdy yn parhau’n rhan o’n busnes ffermio bach lle’r ydym yn magu defaid Shetland ar gyfer eu gwlân. Cyn bo hir byddwn yn cynnig cynnyrch gwlân Pen-lon yn ogystal â gwaith yr arlunydd Penny Samociuk yn ei horiel wrth ymyl y bragdy.
Cynhyrchwyr
Cliciwch isod i weld ein rhestr lawn o gynhyrchwyr ledled Ceredigion
Gweld rhestr lawn o’r cynhyrchwyr >
Heb ddewis unrhyw gynhyrchwyr